Mae gan blant ffordd arbennig o ddod â llawenydd i bob dydd.

Dewch i ni wneud llyfrau yn rhan o’r llawenydd hynny!

Dyma gyfres o lyfrau gan Gwdihŵ i blant Cymru. Rhywbeth bach i bawb.

Cyfres o lyfrau darllen ar gyfer gwahanol oed ysgol gynradd.

Mae gennym lyfrau i blant o gyfnod dechrau darllen hyd at Gyfnod Allweddol 3. Mae Gwdihŵ am eich cyflwyno i deulu o gymeriadau newydd sydd am fwynhau anturiaethau di-ri gyda chi’r plant mewn lluniau, llyfrau darllen a hyd yn oed llyfrau llafar i rai sydd ei hangen.

Llawn dwrn o lyfrau sydd gennym i ddechrau ond gobeithiwn i’r nifer ymestyn wrth i awduron newydd ymuno gyda ni.

Ydych chi’n chwilio am lyfr bach diddorol?

Mae ‘na gymaint o ddewis yn y siopau erbyn hyn, a diolch byth am hynny!

Mae gan Wdihŵ hefyd ddewis o lyfrau gwreiddiol i’ch plentyn. Pigwch draw i ‘Dwli darllen’ i ddod o hyd i lawn dwrn o lyfrau plant sydd gennym. Gallwch fynd ar goll mewn llyfr, ie, rhieni hefyd!

Pigwch draw i ‘Dwli darllen’. Ni’n aros i chi!

brina-blum-d-RwmHvHPPg-unsplash.jpg

“Felly os gwelwch yn dda, rydym yn erfyn, gweddïwn i chi daflu'ch set deledu i ffwrdd ac yn ei le gallwch chi osod silff lyfrau hyfryd ar y wal."

  • Roald Dahl, Charlie a'r Ffatri Siocled.

Wrth ddarllen a ffantasïo gwelwn y gall blant wneud beth bynnag mae nhw’n ei ddychmygu. Gallwn ninnau ond ei hysbrydoli i wireddu’i breuddwydion.