
Anturiaethau Ifan yr Het.
Rhagflas
Cyfieithiad Saesneg ar bob tudalen.
Cyfres o ddau lyfr am Ifan yr Het sydd gennym yma. Mae Ifan yn codi bob bore a phendroni dros ba het mae am wisgo. Mae yna dipyn o ddewis ar y silffoedd ac wrth droi’r tudalennau gwelwn Ifan yn gwisgo bob het yn ei dro a breuddwydio am antur gyffrous.
Ysgrifennwyd y llyfr mewn modd syml a hawdd ei ddeall ac mae ail adrodd yn rhan helaeth o’r anturiaethau. Mae cyfieithiad Saesneg ar bron pob tudalen.
Gallwch ddarllen gopi am ddim wedi ymaelodi drwy wasgu’r botwm isod. Fe allwch hefyd wrando ar y stori yn cael ei ddarllen i chi.
Wel, beth amdani?!
Trên Tŵt tŵt!
Mae tudalennau’r llyfr yn llawn lliw a chyfieithiad i riant Saesneg. Mae cyfle i chi siarad am hetiau gwisgoedd a pham mae’r trên yn cludo glo. Mae cael teithio ar drên yn dipyn o hwyl a chyn gadael yr orsaf gwrandewch allan am sŵn y chwiban.
Ifan y Dyn Tân.
Mae’n bwysig bod yn ofalus â than ac mae’r frigâd dan yn un o’r gwasanaethau mwyaf pwysig sydd gennym. Mae 'na ddigon i ddweud am yr het, yr offer, y dillad a’r injan dân. Mae sŵn ‘dw-da’ i’w glywed yn atseinio o bell. Mae’r tân wedi diffodd. Diolch Ifan!
Cinio blasus Ifan.
Mae coginio mor boblogaidd erbyn hyn. Mae nifer o raglenni coginio ar y teledu ac mae merched a bechgyn yn llwyddiannus iawn fel cogyddion. Oes diddordeb gennych chi yn coginio? Gofynnwch i mam, rwy’n siŵr y bydd wrth ei bodd eich bod am ei helpu.