Anturiaethau Ifan yr Het.

Rhagflas

Cyfieithiad Saesneg ar bob tudalen.

Cyfres o ddau lyfr am Ifan yr Het sydd gennym yma. Mae Ifan yn codi bob bore a phendroni dros ba het mae am wisgo. Mae yna dipyn o ddewis ar y silffoedd ac wrth droi’r tudalennau gwelwn Ifan yn gwisgo bob het yn ei dro a breuddwydio am antur gyffrous.

Ysgrifennwyd y llyfr mewn modd syml a hawdd ei ddeall ac mae ail adrodd yn rhan helaeth o’r anturiaethau. Fel darllenwyd uchod mae cyfieithiad Saesneg ar bron pob tudalen.

Gallwch ddarllen gopi am ddim wedi ymaelodi drwy wasgu’r botwm isod. Fe allwch hefyd wrando ar y stori yn cael ei ddarllen i chi.

Wel, beth amdani?!

 
Tudalen 19

Tudalen 19

Mae help yn dod!

Mae’r parafeddyg yn rhan o dîm y gwasanaeth ambiwlans ac mae’n cludo rhai sydd angen triniaeth ddwys i’r ysbyty mewn ambiwlans. Mae Ifan yn gwisgo gwisg parafeddyg ac mae ar ei ffordd i helpu pawb wedi cael damwain ac sydd ei angen.

 
Tudalen 23

Tudalen 23

Cymru ar y lleuad!

Wel dyma fe o’r diwedd. Mae Ifan wedi cyrraedd y lleuad yn ei roced ac wedi gosod baner Cymru i fyny i bawb gael ei weld. Mae ganddo dipyn o waith casglu deunydd i’w archwilio a cherbyd bach i grwydro Ydyw’r lleuad wedi ei wneud o gaws Ifan?

 
Tudalen 27

Tudalen 27

Pysgodyn rhyfedd!

Mae Ifan wedi paratoi’n fanwl ar gyfer ei antur nesaf dan y dŵr. Mae ganddo ogls a thanc o ocsigen ar ei gefn ac mae’r dŵr yn llawn swigod o bob maint. Mae’r pysgod a chrwban y môr yn wedi dod i weld yr olygfa ryfedd. Rhyw bysgodyn rhyfedd oedd hwn!

 
 

Darllenwch y stori

 

Gwrandewch ar y stori