Wini’r Wenynen a’r Ffynnon Sych.

Rhagflas

Llyfr wedi ei ddylunio ar ffurf tirwedd sydd gennym yma yn disgrifio antur Wini’r Wenynen wrth iddi glywed llais Llio’r llo bach yn galw i ddweud bod y ffynnon yn sych. Mae’r antur yn datblygu wrth i Wini alw am help anifeiliaid y fferm i ddod o hyd i ddŵr. Darllenwch y stori i ddarganfod fwy am stori fawr Wini.

Ysgrifennwyd y llyfr mewn modd syml sydd yn hawdd ei ddeall gan bod ail adrodd yn gwneud y stori i lifo’n ddiffwdan.

Gallwch ddarllen gopi am ddim wedi ymaelodi drwy wasgu’r botwm isod. Fe allwch hefyd wrando ar y stori yn cael ei ddarllen i chi.

Wel, beth amdani?!

 
Tudalen 5

Tudalen 5

Mae syched ar Llio!

Mae’r lluniau yn soled ac yn drawiadol sy’n gwneud i anifeiliaid y fferm neidio allan. Mae Wini’n poeni bod y ffynnon yn sych ac yn casglu’r holl anifeiliaid i geisio helpu gael y ffynnon i weithio a rhoi dŵr i’r anifeiliaid unwaith eto.

 
Tudalen 7

Tudalen 7

Mae Moris yn syn.

Mae pob mochyn yn hoff o fwd ac heb ddŵr does dim modd i Moris rolio a chael hwyl yn y mwd. Mae hyn yn ddifrifol oherwydd arwahan i syched does dim cyfle i Moris snwffian a thwrio a’i drwyn mawr pinc i chwilio am fwyd heb fwd.

 

Agorwch y fideo i glywed y stori

Tudalen 10

Tudalen 10

Bant â ni… 1,2,3…

Dyma Moris, Deio, Cai a Gwdihŵ yn gwneud ei ffordd draw at Llio ar bwys y ffynnon fach. Yn sydyn wedi gofyn i’r cwmwl i ddanfon glaw dyma’r ffynnon yn dechrau llanw. Roedd bwcedi gwag ochr y ffynnon nawr yn llawn dŵr a llanwodd pawb ei boliau.

 
Video Block
Double-click here to add a video by URL or embed code. Learn more